Cogydd

Rhaeadr Gwy, Cymr, GBPosted Oct 17, 2026

Job description

Job Requisition Number 9432 Work Type Parhaol Job Function Hamdden a Chroeso Salary Range £26,200.00 / Annum Base Closing Date Elan Valley (Postcode LD6 5HP) Please apply ASAP - we will review applications on a weekly basis until the role is filled with a suitable match. Pwy ydyn ni Cogydd Oeddech chi'n gwybod bod gennym safle atyniad ymwelwyr yng Nghwm Elan[HS1] sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn?

Mae’r safle’n cynnwys caffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy'n cynnig gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr. Dewch i ymuno â'n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o'r safleoedd harddaf ym Mhowys. Eisiau gweld mwy? Cliciwch yma[HS2] i edrych ar ein gwefan - www.elanvalley.org.uk[HS3] Mae Cwm Elan[HS4] wedi'i leoli yn sir Powys yng nghanolbarth Cymru, ychydig oriau yn unig o Birmingham a Chaerdydd.

Gellir ei gyrraedd yn hawdd o dref gyfagos Rhaeadr Gwy sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da. Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth greu profiad gwych i bawb sy’n ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Cwm Elan. Gan weithio’n agos gyda Goruchwyliwr a Rheolwr y Caffi, byddwch yn helpu i sicrhau bod cegin y caffi’n rhedeg yn esmwyth ac yn gweini bwyd ffres o ansawdd uchel y gall ymwelwyr ei fwynhau fel rhan o’u diwrnod gyda ni.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd yr awenau yn y gegin pan fydd y Goruchwyliwr i ffwrdd, gan gynnal safonau uchel o ran ansawdd bwyd, hylendid a gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys: Paratoi, coginio a gweini prydau o ansawdd uchel, gan ddilyn ein safonau cytunedig a’n targedau cost. Gweithio’n agos gyda gweddill tîm y caffi i sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth a helpu i greu amgylchedd tîm cadarnhaol.

Darparu gwasanaeth cyfeillgar ac eithriadol a helpu i greu profiad gwych i’n hymwelwyr. Ymfalchïo mewn cynnal cegin ddiogel, lân a threfnus, gan sicrhau bod gweithdrefnau diogelwch bwyd yn cael eu dilyn bob amser. Meithrin gwybodaeth dda am ein bwydlenni ac alergenau bwyd er mwyn i chi allu helpu i ddarparu profiad diogel a phleserus i bob ymwelydd.

Cymryd rhan mewn cynllunio bwydlenni a chefnogi digwyddiadau yn y Ganolfan Ymwelwyr. Helpu i reoli stoc ac archebu cyflenwadau er mwyn sicrhau bod gan y gegin bopeth sydd ei angen i ddarparu gwasanaeth llwyddiannus. Amdanoch chi Cymwysterau Hanfodol Modd o deithio i’r safle 5 diwrnod yr wythnos gan ddefnyddio eich cludiant eich hun neu drafnidiaeth gyhoeddus (cod post LD6 5HP).

Profiad Hanfodol Profiad blaenorol amlwg o baratoi bwyd. Profiad o weithio mewn cegin brysur fel cogydd commis neu gogydd. Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol Y gallu i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid a chydweithwyr. Y gallu i fod yn drefnus a dilyn prosesau. Werth ei wybod Gweithio ar sail rota o ddydd Llun i ddydd Sul gydag oriau posibl rhwng 8.

30am a 6.00pm (i gwmpasu diwrnod gwaith 8 awr o hyd) Penwythnosau a gwyliau ysgol yw ein hamseroedd prysuraf a bydd mwy o oriau ar gael bryd hynny Rhaid gallu gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â victoria.hadnett@dwrcymru.com Sylwer, efallai y byddwn yn cau'r rôl hon yn gynt os bydd angen.

Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl i’r swydd gael ei chynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar fodloni’r holl wiriadau.

Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn. Buddion Rydym yn cynnig manteision gwych, gan gynnwys:

  • Cynnydd blynyddol yn y cyflog byw
  • Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau i ymwelwyr
  • Darperir hyfforddiant a gwisg
  • Lleoliad gwaith hardd
  • Oriau gweithio hyblyg (ar gais) Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ei amgylchedd hardd yn bwysig iddo. Dŵr Cymru Cyf, a limited company registered in Wales No. 2366777. Registered office: Linea, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff CF3 0LT © Dŵr Cymru Cyf 2019. <div

Description copied from Welsh Water's careers page. Read the full posting before you apply.

More jobs at Welsh Water

See all openings at Welsh Water

More jobs in Rhayader

See all jobs in United Kingdom