Rheolwr Prosiectau Cyfalaf
Job description
Rhif Cais y Swydd 9560 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau Cwmpas Cyflog £52,793.00 -£62,032.00 Lleoliad Clydach Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Cynorthwyo’r ddarpariaeth o brosiectau sy’n cwmpasu amrywiaeth o werth a chymhlethdod (<£10M yn nodweddiadol), yn cynnwys timau amlddisgyblaeth a rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Cyfrannu at ganlyniadau darparu ar draws cylch oes y prosiect o fewn fframweithiau llywodraethu diffiniedig. Canolbwyntio ar gydgysylltu a chyflawni’r prosiect yn effeithiol, gan fod yn atebol am gyflawniad prosiectau o’r dechrau i’r diwedd, a sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau yn unol â holl allbynnau statudol, rheoliadol, ac ariannol y cynllun busnes.
Cyfrifoldebau Allweddol Cefnogi dull gorau yn y dosbarth o ymdrin â stiwardiaeth Iechyd, Diogelwch, Llesiant ac Amgylcheddol ar draws prosiectau, gan sicrhau cydymffurfiad â’r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) diweddaraf a hyrwyddo diwylliant gwaith rhagweithiol a diogel i gydweithwyr, partneriaid a’r cyhoedd. Cynorthwyo darpariaeth ar draws prosiectau, gan gyfrannu at gynllunio, cydgysylltu, a chyflawniad effeithiol ar draws timau amlddisgyblaeth, gan gysoni prosiectau â strategaethau busnes ac asedau ehangach.
Cyflawni swyddogaeth Rheolwr Prosiect NEC, gan sicrhau bod prosesau cytundebol yn cael eu dilyn, tra’n sicrhau gweinyddiaeth contract o ansawdd uchel, ac ysgogi cyflawniad prydlon pob rhwymedigaeth gytundebol gan sicrhau cydweithrediad, ymddiriedaeth, rheoli risg a derbyniad rhaglen. Gweithio’n agos â thimau Masnachol i sicrhau rhagfynegi cywir, rheoli cyllidebau disgybledig, a sicrhau’r gwerth mwyaf posibl am arian ar draws prosiectau, ag atebolrwydd llawn am berfformiad ariannol.
Cefnogi’r gadwyn gyflenwi mewn ffordd deg a chydweithredol, gan feithrin perthynas ddibynadwy â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys rheoleiddwyr, partneriaid, a thimau mewnol uwch i ddatrys problemau cymhleth a allai effeithio ar gyflawniad. Bodloni’r holl rwymedigaethau wrth gefn ar gyfer y swydd, gan sicrhau argaeledd y tu allan i oriau arferol priodol a rheolaeth yn ystod sefyllfaoedd brys i ddiogelu parhad y gwasanaeth.
Amdanoch chi Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad Hanfodol Cymwysterau Diploma Cenedlaethol Uwch/gradd sylfaen mewn disgyblaeth gysylltiedig (neu brofiad cyfatebol) Cymhwyster Rheoli Prosiect Proffesiynol (APM neu gyfatebol) Cymhwyster cysylltiedig ag adeiladu (NEBOSH / IOSH) Profiad O leiaf 5 mlynedd o weithrediad rheoli contractwyr yn unol â’r holl reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) (CDM), ag arweinyddiaeth brofedig ar draws amgylcheddau cyflawni cymhleth.
O leiaf 5 mlynedd o wybodaeth profiad a gweithrediad o NEC a gweinyddiaeth contractau arall. Profiad o weithio gyda swyddogaethau peirianneg, gweithrediadau a rheoli asedau amlddisgyblaeth ar draws prosiectau cymhleth â blaenoriaethau sy’n cystadlu. Gwybodaeth a Sgiliau Gwybodaeth dda am ddiwydiant dŵr y DU, gan gynnwys ysgogiadau rheoliadol, safonau asedau, a phrosesau darparu cyfalaf.
Sgiliau rheoli contractwyr, arweinyddiaeth diogelwch, trosolwg masnachol a rheoli perfformiad cryf. Galluoedd rheoli prosiect, gan gynnwys cynllunio, rheoli, a chyflawni prosiectau cyfalaf ar draws timau amlddisgyblaeth yn unol ag amserlenni rheoliadol tynn Sgiliau cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid effeithiol ar draws timau technegol, gweithredu a masnachol Werth ei wybod Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr Cynllun beicio i'r gwaith Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan!
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni.
Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. Pwy ydyn ni Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn arwain prosiectau llwyddiannus? Allwch chi arwain a rhoi canllawiau i dîm gyflawni ei nodau? Byddwch chi'n gwneud y canlynol fel rhan o'r rôl hon: - arwain tîm o gydlynwyr prosiectau - asesu anghenion prosiectau, diffinio cwmpas gwaith - rheoli strwythur prosiectau a'u rhedeg a'u comisiynu - cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch er mwyn sicrhau bod pob prosiect yn cydymffurfio â rheoliadau dylunio a rheoli adeiladu - cyflawni rôl y Rheolwr Prosiect fel y nodir yn NEC - cydweithio â chwsmeriaid mewnol, partneriaid y Gynghrair a chyflenwyr - ymgysylltu â rheolwyr costau ar y proffil gwariant - llunio adroddiadau misol ar gynnydd Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777.
Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019. <div
Description copied from Welsh Water's careers page. Read the full posting before you apply.
More jobs at Welsh Water
Syrfëwr Meintiau
Welsh Water· Caerdydd, Cymr, GBSyrfëwr Meintiau
Welsh Water· Casnewydd, Cymr, GBQuantity Surveyor (Maintenance)
Welsh Water· Abergele, Wale, GBSyrfëwr Meintiau
Welsh Water· Abergele, Cymr, GBRheolwr Prosiect Graddedig
Welsh Water· Abertawe, Cymr, GB
More jobs in Swansea
Seasonal Store Colleague
JD Gyms· JD Sports- 2312 Swansea OOT, Swansea, United KingdomAdministration Assistant
Redkite Solicitors· Swansea, United KingdomSite Manager Req number 1850
Avove· Swansea, UKResponsible Individual - CIW
Newwayrecruitment· Swansea, United KingdomSales Support Co-Ordinator
Wolseley· Swansea