Prentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu - Lefel 3 - BBC Studios - Drama wedi'i Sgriptio - Celf - Caerdyd

CardiffSeniorPosted Nov 7, 2026

Job description

MATH O GONTRACT: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 13 mis ADRAN: Celf LLEOLIAD: Cardiff

  • Roath Lock CYFLOG: £24,650 AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI? Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu. PAM YMUNO ’R CYNLLUN? Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain. Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw. Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith. Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys sy'n bwysig i filiynau. Eisiau gwybod mwy? Gwyliwch recordiadau o’n cyfres o weminarau ar ein rhestr chwarae YouTube Bywyd yn y BBC i ddysgu mwy am y cynllun hwn a’r cyfleoedd eraill rydym ni’n eu cynnig, ac i glywed gan ein prentisiaid presennol am eu profiadau nhw. Mae lleoedd ar y Brentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu ar gael ar draws amrywiaeth o dimau yn y lleoliad hwn, yn ogystal â lleoliadau eraill. Mae manylion lleoliadau gwaith eraill sydd ar gael yn y lleoliad hwn ar wefan Gyrfaoedd Cynnar y BBC. PAM YMUNO ’R TÎM? Wedi eich lleoli ym Mhorth y Rhath, Cymru, byddwch yn gweithio ar y gyfres ddrama, Pobol Y Cwm. Byddwch yn gweithio yn yr Adran Gelf, ac yn cael trosolwg o bob rhan o waith yr adran brysur ac amrywiol hon. Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu yn y BBC, byddwch chi’n cael profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o brosiectau – o gefnogi cynyrchiadau uchel eu proffil i gyfrannu at gynnwys y mae cynulleidfaoedd ledled y DU yn ei fwynhau. Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol, yn datblygu sgiliau ymarferol ac yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddod â syniadau creadigol yn fyw. Gallai’r brentisiaeth hon arwain at gyfleoedd i weithio fel:
  • Is-ymchwilydd
  • Rhedwr
  • Cynorthwyydd Cynnwys neu Olygu EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu gyda Chwaraeon Celf , mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Fe allech chi fod yn: Helpu i ddatblygu syniadau a straeon drwy ymchwilio i gynnwys a dod o hyd i westeion a chyfranogwyr. Ennill profiad bywyd go iawn drwy gynorthwyo eich tîm ar leoliad, yn y stiwdio, neu mewn oriel deledu, a helpu ar lawr y stiwdio. Dysgu sut mae defnyddio offer technegol a meddalwedd arbenigol drwy gefnogi timau gyda chamerâu, sain, goleuadau a golygu. Creu cynnwys ar gyfer sawl llwyfan, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, o dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol. Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster prentisiaeth sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a’r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, yn ogystal â dysgu ar eich lleoliad yn y BBC, yn mynychu blociau dysgu (hyd at wythnos ar y tro) gyda'n darparwr dysgu, gan weithio tuag at gymhwyster prentisiaeth a gydnabyddir gan y diwydiant – Lefel 3 y Cyfryngau Creadigol. Bydd y blociau dysgu yn gyfuniad o ddarpariaeth wyneb yn wyneb a rhithwir, gan gynnwys: Cyflwyniadau Gwaith grŵp Fel rhan o’r rhaglen, bydd gofyn i chi deithio i fynd i flociau dysgu wyneb yn wyneb a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r brentisiaeth lle bo angen. I gael rhagor o wybodaeth am safon y brentisiaeth y byddwch yn ei hastudio, darllenwch y manylion yn Fframwaith Lefel 3 Cyfryngau Creadigol. EICH SGILIAU A’CH CYMHWYSEDD Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi’n awyddus i weithio yn y BBC, ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Eich potensial sy’n bwysig i ni, nid eich cymwysterau, a byddwn ni’n rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd. Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais: Rhywun sy’n angerddol a chwilfrydig am gynnwys, y broses gynhyrchu a’r BBC Rhywun sy’n llawn syniadau newydd a safbwyntiau ffres am gynnwys y BBC Rhywun sy’n aelod gwych o dîm ac yn gallu delio â heriau annisgwyl Rhywun sy’n hyblyg ac yn gallu addasu i’r gwaith er mwyn helpu i ddarparu ein cynnwys. Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio . Os oes gennych chi radd a bod gennych chi ddiddordeb mewn rolau tebyg yn y BBC, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am swyddi ar wefan gyrfaoedd y BBC neu’n edrych ar ein cynlluniau prentisiaeth eraill. MEINI PRAWF CYMHWYSEDD Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC: Bod yn 18 oed neu’n hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2027 Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y tair blynedd cyn dechrau’r brentisiaeth Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithio’n llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall sy’n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd I gwblhau'r brentisiaeth, rhaid i chi fod â TGAU Gradd 4/C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg, neu National 5 (Yr Alban) Gradd C, neu Sgiliau Gweithredol Lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol. Os nad ydych chi wedi ennill y cymwysterau hyn erbyn dechrau eich prentisiaeth, bydd gofyn i chi gyflawni Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2 cyn diwedd cyfnod asesu'r brentisiaeth pan fyddwch chi’n cwblhau eich asesiad terfynol. BAROD I YMGEISIO? Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chi'n eich gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon? Cliciwch ‘Ymgeisio Nawr’! Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn – does dim angen CV na llythyr cais. Os ydych chi’n gymwys, byddwn ni’n eich tywys drwy’r camau nesaf gan roi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl. Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol? Edrychwch ar ein hysbysebion eraill – ond cofiwch mai dim ond am un swydd y dylech wneud cais. Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol – bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun. Ar ôl i chi gwblhau eich prentisiaeth, byddwch yn gallu gwneud cais am unrhyw swyddi gwag addas yn y BBC neu yn y sector creadigol ehangach. Byddwch yn cael cymorth gyda datblygiad gyrfa, hyfforddiant cyflogadwyedd, a chyfleoedd rhwydweithio i’ch helpu i gymryd y cam nesaf. Ar gyfer cyfleoedd prentisiaeth, bydd ymgeiswyr anabl sy’n dewis gwneud cais o dan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl yn symud ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio fel arfer. Ar gyfer y rhan fwyaf o’n hymgyrchoedd, byddai hyn yn golygu asesiad ar-lein sydd wedi’i gynllunio i asesu eich sgiliau, eich cymhellion a’ch addasrwydd ar gyfer y swydd. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran Cwestiynau Cyffredin ar ein gwefan gyrfaoedd. PRA27

Description copied from BBC's careers page. Read the full posting before you apply.

More jobs at BBC

See all openings at BBC

More jobs in Cardiff

See all jobs in United Kingdom