Cynorthwyydd Manwerthu / Caffi

Rhaeadr Gwy, Cymr, GBPosted Oct 31, 2026

Job description

Rhif Cais y Swydd 9434 Math o Waith Achlysurol Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £13.45 Lleoliad Elan Valley Pwy ydyn ni Oeddech chi'n gwybod bod gennym safle atyniad ymwelwyr yng Nghwm Elan[HS1] sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn? Mae’r safle’n cynnwys caffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy'n cynnig gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr.

Dewch i ymuno â'n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o'r safleoedd harddaf ym Mhowys. Eisiau gweld mwy? Cliciwch yma[HS2] i edrych ar ein gwefan - www.elanvalley.org.uk[HS3] Mae Cwm Elan[HS4] wedi'i leoli yn sir Powys yng nghanolbarth Cymru, ychydig oriau yn unig o Birmingham a Chaerdydd. Gellir ei gyrraedd yn hawdd o dref gyfagos Rhaeadr Gwy sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da.

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Fel Cynorthwyydd Arlwyo, bydd gofyn i chi wneud y canlynol: Gweithio yn unol â gweithdrefnau priodol i sicrhau diogelwch pob unigolyn ar y safle. Cysoni incwm dyddiol â derbyniadau til. Gweini bwyd a diod i gwsmeriaid. Sicrhau bod byrddau yn lân ac ar gael i gwsmeriaid eu defnyddio. Dyletswyddau glanhau cyffredinol yn y gegin a'r ardaloedd storio.

Coginio i gydweithwyr a gweini prydau poeth yn ystod oriau amser brecwast a chinio. Amdanoch chi Cymhwyster Lefel 2 mewn Hylendid Bwyd yn ddelfrydol Profiad ym maes Arlwyo / Manwerthu / Lletygarwch Profiad ymarferol ym maes Iechyd a Diogelwch Gwybodaeth neu arbenigedd ym maes gwasanaeth cwsmeriaid manwerthu Gweithio gyda'r cyhoedd Y gallu i weithio ar eich menter eich hun Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg Ymwybyddiaeth fasnachol Sgiliau rhifedd / gweithredu til Werth ei wybod Gweithio ar sail rota o ddydd Llun i ddydd Sul gydag oriau posibl rhwng 8.

30am a 6.00pm (i gwmpasu diwrnod gwaith 8 awr o hyd) Penwythnosau a gwyliau ysgol yw ein hamseroedd prysuraf a bydd mwy o oriau ar gael bryd hynny Rhaid gallu gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â [email protected] Sylwer, efallai y byddwn yn cau'r rôl hon yn gynt os bydd angen.

Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl i’r swydd gael ei chynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar fodloni’r holl wiriadau.

Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn. Buddion Rydym yn cynnig manteision gwych, gan gynnwys:

  • Cynnydd blynyddol yn y cyflog byw
  • Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau i ymwelwyr
  • Darperir hyfforddiant a gwisg
  • Lleoliad gwaith hardd
  • Oriau gweithio hyblyg (ar gais) Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ei amgylchedd hardd yn bwysig iddo. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019. <div

Description copied from Welsh Water's careers page. Read the full posting before you apply.

More jobs at Welsh Water

See all openings at Welsh Water

More jobs in Rhayader

See all jobs in United Kingdom