Research Associate - RF-GaN Electronics
Posted Nov 20, 2026
Job description
Job Advert Research Associate
- RF-GaN Electronics Cardiff School of Engineering The Centre for High Frequency Engineering (CHFE), within the School of Engineering at Cardiff University, in partnership with IQE, is seeking to recruit a highly motivated researcher to contribute to an exciting, collaborative research and development programme in high-frequency electronics. This strategic partnership brings together academic expertise and industrial leadership to deliver cutting-edge technologies aligned with the priorities of both organisations. IQE is a global leader in wafer products and epitaxial services for the semiconductor industry, with a strong focus on advanced epitaxial materials, particularly Gallium Nitride (GaN) for radio frequency (RF) applications. The role will involve conducting research to develop high-performance devices for next-generation communications and sensing applications using GaN RF technology platforms. There will also be opportunity to collaborate closely with multidisciplinary teams, including characterisation and circuit design specialists within the CHFE, to ensure effective device development and performance validation. About the Environment This role offers the opportunity to work within a dynamic, collaborative research environment at Cardiff University, with strong links to industry. The role will involve the implementation, development and enhancement of RF GaN device fabrication processes using micro- and nano-fabrication modules in the recently opened state-of-the-art Institute for Compound Semiconductors (ICS) cleanroom facility https://www.cardiff.ac.uk/institute-compound-semiconductors. This post is full time (35 hours per week), is available immediately and is fixed term until 31 December 2029. Salary: £41,885 - £46,970 per annum (Grade 6). It is not expected that an appointment be made above £41,064 per annum, Point
- For informal enquiries about the post please contact Prof. Khaled Elgaid ([email protected]) For further details about working at Cardiff School of Engineering please contact Catherine Parker at [email protected] Date advert posted: Friday, 20 November 2026 Closing Date: Sunday, 6 December 2026 The School of Engineering holds an Athena SWAN Silver Award that recognises good employment practice and a commitment to develop the careers of women working in science. Cardiff University is an equal opportunities employer and positively encourages applications from suitably qualified and eligible candidates regardless of sex, race, disability, age, sexual orientation, gender reassignment, religion or belief, marital status, or pregnancy and maternity. For this vacancy we actively encourage women to apply. We will also consider proposals for flexible working or job share opportunities. Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment
- Research
- Cardiff University Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements. Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English. Hysbyseb Swydd Cynorthwyydd Ymchwil – Electroneg RF-GaN Ysgol Peirianneg Caerdydd Mae'r Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel (CHFE), yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, ar y cyd ag IQE, yn awyddus i recriwtio ymchwilydd brwdfrydig iawn i gyfrannu at raglen ymchwil a datblygu gyffrous a chydweithredol ym maes electroneg amledd uchel. Mae'r bartneriaeth strategol hon yn dwyn ynghyd arbenigedd academaidd ac arweinyddiaeth ddiwydiannol i ddarparu technolegau arloesol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r ddau sefydliad. Mae IQE yn arweinydd byd-eang ym maes cynhyrchion wafferi a gwasanaethau epitacsiol ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion, gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau epitacsiol uwch, yn enwedig Galiwm Nitrid (GaN) ar gyfer cymwysiadau amledd radio (RF). Bydd y rôl yn cynnwys cynnal ymchwil i ddatblygu dyfeisiau perfformiad uchel ar gyfer cymwysiadau cyfathrebu a synhwyro'r genhedlaeth nesaf gan ddefnyddio platfformau technoleg GaN RF. Bydd cyfle hefyd i gydweithio'n agos â thimau amlddisgyblaethol, gan gynnwys arbenigwyr nodweddu a dylunio cylchedau yn y CHFE, er mwyn sicrhau bod dyfeisiau'n cael eu datblygu’n effeithiol a dilysu perfformiad. Ynglŷn â’r Amgylchedd Mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn amgylchedd ymchwil deinamig a chydweithredol ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chysylltiadau cryf â diwydiant. Bydd y rôl yn cynnwys gweithredu, datblygu a gwella prosesau creu dyfeisiau RF GaN, gan ddefnyddio modiwlau micro-a nano-greu yng nghyfleuster ystafell lân o’r radd flaenaf y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) a agorwyd yn ddiweddar https://www.caerdydd.ac.uk/institute-compound-semiconductors . Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, sydd ar gael ar unwaith ac am gyfnod penodol tan 31 Rhagfyr 2029. Cyflog: £41,885 – £46,970 y flwyddyn (Gradd 6). Nid ydym yn disgwyl penodi rhywun uwchlaw pwynt 32 ar y raddfa gyflog, sy’n talu £41,064 y flwyddyn. Os hoffech wneud ymholiadau anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch â'r Athro Khaled Elgaid, ( [email protected] ) I gael rhagor o fanylion ynghylch gweithio yn Ysgol Peirianneg Caerdydd, e-bostiwch Catherine Parker [email protected] Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026 Dyddiad cau: Dydd Sul, 6 Rhagfyr 2026 Mae Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn meddu ar Ddyfarniad Arian Athena SWAN sy'n cydnabod arferion cyflogaeth da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod ym maes gwyddoniaeth. Cyflogwr cyfle cyfartal yw Prifysgol Caerdydd sy’n annog ceisiadau gan unigolion cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod i wneud cais am y swydd. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg. Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol
- Ymchwil
- Prifysgol Caerdydd Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Description copied from Cardiff University's careers page. Read the full posting before you apply.
More jobs at Cardiff University
Marie-Skłodowska-Curie Actions Doctoral Candidate (DC14)
Cardiff University· Cardiff, Glamorgan, United KingdomPersonal Assistant
Cardiff University· Cardiff, Glamorgan, United KingdomICS Process Engineer
Cardiff University· Cardiff, Glamorgan, United KingdomSenior Lecturer in Law
Cardiff University· Cardiff, United KingdomResearch Associate in building performance and thermal demand mapping
Cardiff University