Marie-Skłodowska-Curie Actions Doctoral Candidate (DC14)

Cardiff, Glamorgan, United KingdomPosted Nov 20, 2026

Job description

Job Advert Marie-Skłodowska-Curie Actions Doctoral Candidate (DC14) Cardiff Business School, Cardiff University Applicants are invited for a Doctoral Candidate position in the network, TRAIN-FAST (Training researchers in safe, resilient and economically viable ultra-fast battery charging systems https://train-fast.dtu.

dk/ ) at Cardiff Business School funded by the European Commission’s Marie-Skłodowska-Curie Actions Doctoral Network. This project will examine business model innovation for UFC uptake, the role of government and social actors in under-served areas, and conditions for stable green financing. It will:

  1. Analyse how social actors can collaborate to accelerate UFC adoption;
  2. Identify potential social inequalities linked to UFC roll-out and propose mitigation strategies;
  3. Develop strategies to de-risk UFC investments through policy, financing, and coordination;
  4. Build a dynamic total cost of ownership model capturing time-varying and uncertain factors Expected results: (i) A suite of policy/regulatory roadmap; (ii) Report on the role of government and social actors in promoting UFC uptake in under-served areas and ensuring stable conditions for green financing; (iii) Dynamic total cost of ownership model. This post is fixed term for 36 months, which includes two planned secondments: (1) an academic secondment at the co-supervising university, Politecnico di Torino POLITO (Italy) and (2) a non-academic secondment at the regional body, Cardiff Capital Region. The candidate will be PhD-registered at Cardiff University (Wales, UK) as well as employed by Cardiff University. Salary: £43,202 to £48,625 per year Mobility Allowance: £5,994.72 per year. Family Allowance (if applicable): £5,572.56 per year For informal enquiries about the post please contact Professor Peter Wells ( [email protected] ). Additional Information This is a European Commission Horizon Europe Marie Skłodowska-Curie Actions Doctoral Network project. Rules for recruitment are: MSCA Mobility Rule: Applicants must not have resided or carried out their main activity (work or studies) in the country of the recruiting institution (for this post, the UK) for more than 12 months in the 36 months immediately before the recruitment date. Short stays, such as holidays, are not considered, and neither is time spent as part of a procedure to obtain refugee status under the Geneva Convention. Doctoral Candidate Rule: Applicants must not already hold a doctoral degree on the date of recruitment. Researchers who have successfully defended their doctoral thesis but have not yet formally been awarded their doctorate will not be eligible. Applicants who do not fulfil the Mobility Rule and the Eligibility Criteria CANNOT be considered. The DC will ideally commence PhD enrolment and employment on 1 April 2027, 1 June 2027 or 1 October 2027. IMPORTANT: Evidencing Criteria When submitting your application, please show how you meet all the essential criteria, and ensure you name your Supporting Statement with the vacancy reference. Selection process Applications will be reviewed for eligibility and suitability based on the criteria Shortlisted candidates will be invited for an online interview with the recruitment committee. Cardiff University is recognised in independent government assessments as one of Britain’s leading teaching and research universities and is a member of the Russell Group, the UK’s most research-intensive universities. The 2021 Research Excellence Framework found 90% of the University’s research to be world-leading or internationally excellent. Among its academic staff are two Nobel Laureates, including the winner of the 2007 Nobel Prize for Medicine, Professor Sir Martin Evans. Founded by Royal Charter in 1883, today the University combines impressive modern facilities and a dynamic approach to teaching and research. The University’s breadth of expertise encompasses: the College of Physical Sciences and Engineering, the College of Arts, Humanities and Social Sciences; and the College of Biomedical and Life Sciences . Its University institutes bring together academics from a range of disciplines to tackle some of the challenges facing society, the economy, and the environment. More at www.cardiff.ac.uk . Cardiff University is an equal opportunities employer and positively encourages applications from suitably qualified and eligible candidates regardless of sex, race, disability, age, sexual orientation, gender reassignment, religion or belief, marital status, or pregnancy and maternity. For this vacancy we actively encourage women to apply. We will also consider proposals for flexible working. Date advert posted: Friday, 20 November 2026 Closing date: Sunday, 10 January 2027 Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements. Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English. Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment
  • Research
  • Cardiff University . Hysbyseb Swydd Ymgeisydd Doethurol Marie-Skłodowska-Curie Actions (DC14) Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd Gwahoddir ymgeiswyr am swydd Ymgeisydd Doethurol yn y Rhwydwaith, TRAIN-FAST (Hyfforddi ymchwilwyr mewn systemau gwefru batri cyflym iawn sy’n ddiogel, yn wydn ac yn economaidd hyfyw, https://train-fast.dtu.dk/ ) yn Ysgol Busnes Caerdydda ariennir gan Rwydwaith Doethurol Gweithredoedd Marie-Skłodowska-Curie y Comisiwn Ewropeaidd. Bydd y prosiect hwn yn archwilio arloesedd modelau busnes ar gyfer defnyddio gwefru cyflym iawn, rôl y llywodraeth a chwaraewyr cymdeithasol mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu ddigon, ac amodau ar gyfer cyllid gwyrdd sefydlog. Bydd yn:
  1. Dadansoddi sut y gall chwaraewyr cymdeithasol gydweithio i gyflymu dulliau mabwysiadu UFC;
  2. Nodi anghydraddoldebau cymdeithasol posibl sy'n gysylltiedig â chyflwyno UFC a chynnig strategaethau lliniaru;
  3. Datblygu strategaethau i leihau risg buddsoddiadau UFC drwy bolisi, cyllid a chydlynu;
  4. Creu model deinamig o gyfanswm cost perchnogaeth sy'n nodi ffactorau sy'n amrywio o ran amser ac sy'n ansicr Canlyniadau disgwyliedig: (i) Cyfres o gynlluniau polisi/rheoleiddio; (ii) Adroddiad ar rôl y llywodraeth a chwaraewyr cymdeithasol wrth hyrwyddo nifer y bobl sy'n manteisio ar UFC mewn ardaloedd nad ydynt wedi’u gwasanaethu ddigon a sicrhau amodau sefydlog ar gyfer cyllid gwyrdd; (iii) Model deinamig o gyfanswm cost perchnogaeth. Mae'r swydd hon yn un tymor penodol am 36 mis, sy'n cynnwys dau secondiad wedi'u cynllunio: (1) secondiad academaidd yn y brifysgol sy'n cyd-oruchwylio, Politecnico di Torino POLITO (Yr Eidal) a (2) secondiad anacademaidd yn y corff rhanbarthol, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd yr ymgeisydd wedi'i gofrestru ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Caerdydd (Cymru, y DU) yn ogystal â chael ei gyflogi gan Brifysgol Caerdydd. Cyflog: £43,202 i £48,625 y flwyddyn Lwfans Symudedd: £,5994.72 y flwyddyn. Lwfans Teulu (os yn berthnasol): £5,575.56 y flwyddyn I gael sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch â'r Athro Peter Wells ( [email protected] ). Gwybodaeth Ychwanegol Prosiect Rhwydwaith Doethurol Marie-Skłodowska-Curie Actions Horizon Europe y Comisiwn Ewropeaidd yw hwn. Dyma’r rheolau ar gyfer recriwtio: Rheol Symudedd MSCA: Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi byw nac wedi cyflawni eu prif weithgaredd (gweithio neu astudio) yng ngwlad y sefydliad sy'n recriwtio (ar gyfer y swydd hon, y DU) am fwy na 12 mis yn y 36 mis yn union cyn y dyddiad recriwtio. Ni chaiff arosiadau byr, fel gwyliau, eu hystyried, na chwaith amser a dreulir fel rhan o weithdrefn i gael statws ffoadur o dan Gonfensiwn Genefa. Rheol Ymgeiswyr Doethurol: Ni ddylai ymgeiswyr fod â gradd doethurol eisoes ar y dyddiad recriwtio. Ni fydd ymchwilwyr sydd wedi amddiffyn eu traethawd doethurol yn llwyddiannus ond nad ydynt wedi derbyn y radd doethurol yn ffurfiol eto yn gymwys. NI ellir ystyried ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r Rheol Symudedd a'r Meini Prawf Cymhwysedd. Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd doethurol yn dechrau’r broses ymrestru a chyflogaeth ar gyfer PhD ar 1 Ebrill 2027, 1 Mehefin 2027 neu 1 Hydref 2027. PWYSIG: Meini Prawf Tystiolaeth Wrth gyflwyno eich cais, dangoswch sut rydych chi'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol, a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n enwi eich Datganiad Ategol gyda chyfeirnod y swydd wag. Y broses ddethol Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu am gymhwysedd ac addasrwydd yn seiliedig ar y meini prawf. Bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein gyda'r pwyllgor recriwtio. Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd fel un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae'n aelod o’r Grŵp Russell, sef prifysgolion mwyaf gweithgar y DU ym maes ymchwil. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, nodwyd bod 90% o ymchwil y Brifysgol yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Ymhlith ei staff academaidd mae dau enillydd Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel Meddygaeth 2007, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol yn sgil Siarter Frenhinol ym 1883. Heddiw, mae'n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae ehangder arbenigedd y Brifysgol yn cwmpasu: Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a Choleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd. Mae sefydliadau’r Brifysgol yn dod ag academyddion o ystod o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mae’r gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd yn eu hwynebu. Rhagor o wybodaeth: www.caerdydd.ac.uk Cyflogwr cyfle cyfartal yw Prifysgol Caerdydd sy’n annog ceisiadau gan unigolion cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod i wneud cais am y swydd. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer gweithio’n hyblyg. Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026 Dyddiad cau: Dydd Sul, 10 Ionawr 2027 Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau am gyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd .

Description copied from Cardiff University's careers page. Read the full posting before you apply.

More jobs at Cardiff University

See all openings at Cardiff University

More jobs in Cardiff

See all jobs in United Kingdom